Telerau ac Amodau
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Ionawr 2018
Darllenwch y Telerau ac Amodau hyn ("Telerau", "Telerau ac Amodau") yn ofalus cyn defnyddio gwefan https://betblocker.org/ a chymhwysiad symudol BetBlocker (y "Gwasanaeth") a weithredir gan BetBlocker ("ni", "ein" neu "ein gwasanaeth").
Mae eich mynediad at y Gwasanaeth a'ch defnydd ohono yn amodol ar eich derbyniad o'r Telerau hyn a'ch cydymffurfiaeth â hwy. Mae'r Telerau hyn yn berthnasol i bob ymwelydd, defnyddiwr ac unrhyw berson arall sy'n cael mynediad at y Gwasanaeth neu'n ei ddefnyddio.
Drwy gael mynediad at y Gwasanaeth neu ei ddefnyddio, rydych yn cytuno i ymrwymo i'r Telerau hyn. Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw ran o'r telerau, yna ni fyddwch yn cael mynediad at y Gwasanaeth.
BetBlocker a'i drwyddedwyr yw'r unig rai sydd â'r hawl dros y Gwasanaeth a'i gynnwys gwreiddiol, ei nodweddion a'i ymarferoldeb, a bydd yn parhau felly. Mae'r Gwasanaeth wedi'i ddiogelu gan gyfreithiau hawlfraint, nod masnach a chyfreithiau eraill y Deyrnas Unedig a gwledydd tramor. Ni chaniateir defnyddio ein nodau masnach na'n gwisg fasnachol mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan BetBlocker.
Gall ein Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau neu wasanaethau trydydd parti nad ydynt yn eiddo i BetBlocker nac o dan ei reolaeth.
Nid oes gan BetBlocker unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw wefannau neu wasanaethau trydydd parti, ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Rydych hefyd yn cydnabod ac yn cytuno na fydd BetBlocker yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, am unrhyw ddifrod neu golled a achosir neu yr honnir iddynt gael eu hachosi gan, neu fod yn gystylltiedig â, defnyddio neu ddibynu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau sydd ar gael ar neu drwy unrhyw wefannau neu wasanaethau o'r fath.
Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddarllen telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd unrhyw wefannau neu wasanaethau trydydd parti y byddwch yn ymweld â hwy.
Rydych yn cytuno i amddiffyn, indemnio a dal BetBlocker, ei drwyddedai a'i drwyddedwyr, ynghyd â'u gweithwyr, contractwyr, asiantiaid, swyddogion a chyfarwyddwyr, yn rhydd rhag neu yn erbyn unrhyw hawliadau, iawndaliadau, rhwymedigaethau, colledion, atebolrwydd, costau neu ddyledion, a threuliau (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffioedd cyfreithwyr), sy'n arwain o, neu sy'n gysylltiedig â, (a) eich defnydd o'r Gwasanaeth a'ch mynediad ato, neu (b) dorri'r Telerau hyn.
Ni fydd BetBlocker, na'i gyfarwyddwyr, gweithwyr, partneriaid, asiantiaid, cyflenwyr nac endidau cysylltiedig, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw iawndal anuniongyrchol, achlysurol, arbennig, canlyniadol neu gosbol, gan gynnwys, heb gyfyngiad, colli elw, data, defnydd, ewyllys da neu golledion anniriaethol eraill, sy'n deillio o (i) eich mynediad at y Gwasanaeth neu'ch defnydd ohono, neu'ch anallu i gael mynediad ato neu ei ddefnyddio; (ii) unrhyw ymddygiad neu gynnwys gan unrhyw drydydd parti ar y Gwasanaeth; (iii) unrhyw gynnwys a geir o'r Gwasanaeth; a (iv) mynediad, defnydd neu newid anawdurdodedig i'ch trosglwyddiadau neu'ch cynnwys, boed hynny'n seiliedig ar warant, contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu unrhyw ddamcaniaeth gyfreithiol arall, p'un a ydym wedi cael gwybod am y posibilrwydd o ddifrod o'r fath ai peidio, a hyd yn oed os canfyddir bod rhwymedi a nodir yma wedi methu â chyflawni ei ddiben hanfodol.
Rydych yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich menter eich hun. Darperir y Gwasanaeth "FEL Y MAE" ac "FEL Y MAE AR GAEL". Darperir y Gwasanaeth heb unrhyw warantau o unrhyw fath, boed yn rhai penodol neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau ymhlyg o fasnachadwyedd, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thresmasu neu drefn cyflawni.
Nid yw BetBlocker, ei is‐gwmnïau, ei endidau cysylltiedig na'i drwyddedwyr yn gwarantu (a) y bydd y Gwasanaeth yn gweithredu'n ddi‐dor, yn ddiogel neu ar gael ar unrhyw adeg neu mewn unrhyw leoliad penodol; (b) y bydd unrhyw wallau neu ddiffygion yn cael eu cywiro; (c) y bydd y Gwasanaeth yn rhydd rhag firysau neu gydrannau niweidiol eraill; neu (d) y bydd y canlyniadau o ddefnyddio'r Gwasanaeth yn bodloni eich gofynion.
Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd yr uchod a heb ystyried unrhyw ddarpariaeth arall yn y telerau hyn, ni fydd BetBlocker, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol i chi nac i unrhyw berson arall am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol, achlysurol, canlyniadol, arbennig, cosbol neu enghreifftiol sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth, neu sy'n gysylltiedig ag ef neu â'r Telerau hyn, pwnc y Telerau hyn, terfynu'r Telerau hyn neu fel arall, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, anaf personol, colli data, busnes, marchnadoedd, cynilion, incwm, elw, defnydd, cynhyrchiant, enw da neu ewyllys da, boed yn ddisgwyliedig ai peidio, neu golled economaidd, o dan unrhyw ddamcaniaeth o atebolrwydd (boed mewn contract, camwedd, atebolrwydd llym neu unrhyw ddamcaniaeth neu gyfraith neu ecwiti arall), waeth beth fo unrhyw esgeulustod neu fai neu gamwedd arall (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod difrifol a thor‐contract sylfaenol) gan BetBlocker neu unrhyw berson y mae BetBlocker yn gyfrifol amdano, a hyd yn oed os yw BetBlocker wedi cael gwybod am y posibilrwydd y byddai colled neu ddifrod o'r fath yn digwydd.
Bydd y Telerau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, heb roi ystyriaeth i'w darpariaethau ynghylch gwrthdaro cyfreithiau.
Ni fydd ein methiant i orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn cael ei ystyried yn ildiad o'r hawliau hynny. Os bydd llys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn annilys neu'n anorfodadwy, bydd gweddill darpariaethau'r Telerau hyn yn parhau mewn grym. Mae'r Telerau hyn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhyngom ynghylch ein Gwasanaeth, ac yn disodli unrhyw gytundebau blaenorol a allai fod rhyngom ynghylch y Gwasanaeth.
Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i addasu neu ddisodli'r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Os yw adolygiad yn berthnasol, byddwn yn ceisio rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn i unrhyw delerau newydd ddod i rym. Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â newid perthnasol yn cael ei bennu yn ôl ein disgresiwn llwyr.
Drwy barhau i gael mynediad at ein Gwasanaeth neu ei ddefnyddio ar ôl i'r diwygiadau hynny ddod i rym, rydych yn cytuno i ymrwymo i'r telerau diwygiedig. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau newydd, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth.
Cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd a'n Polisi Cwcis. Rydych yn cytuno eu bod yn rhan o'r telerau hyn. Rhaid i chi ddarllen ein Polisi Preifatrwydd a'n Polisi Cwcis cyn defnyddio'r Gwasanaeth.
Drwy actifadu'r offeryn BetBlocker, rydych yn cydnabod eich bod yn deall y bydd yr offeryn hwn yn cyfyngu ar allu eich dyfais i gael mynediad at wasanaethau ar‐lein sy'n ymwneud â gamblo. Rydych hefyd yn cydnabod ac yn cytuno na fydd modd tynnu'r offeryn oddi ar eich dyfais am gyfnod yr eithriad a ddewiswyd. Ymhellach, rydych yn cydnabod eich bod yn deall, er y bydd ein tîm cymorth yn gwneud pob ymdrech i'ch helpu i gywiro unrhyw namau neu wallau gyda'r offeryn lle gellir gwneud hynny'n rhesymol, ni fyddant yn eich cynorthwyo i dynnu'r offeryn oddi ar eich dyfais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau hyn, cysylltwch â ni drwy admin@betblocker.org.