Cwestiynau Cyffredin am BetBlocker
Faint mae Betblocker yn costio?
Dim byd o gwbl. Byth. Mae dibyniaeth gamblo yn gyflwr difrifol sydd fel arfer yn gysylltiedig â gorfodaeth ariannol. Yn wahanol i’n cystadleuwyr, nid ydym yn credu ei bod yn iawn codi tâl ychwanegol ar bobl a chanddynt eisoes broblemau ariannol i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu cyflwr. Nid ydym am elwa ar y rhai â phroblemau dibyniaeth.
Ar gyfer beth y defnyddir Rheolaeth Rhieni BetBlocker?
Mae llawer o rieni’n poeni am y cynnwys y gall eu plant ei gyrchu ar y rhyngrwyd. Er mai prif bwrpas BetBlocker yw helpu pobl â phroblemau gamblo i reoli eu gweithgarwch, rydym hefyd yn darparu offeryn i rieni reoli’r gwefannau y gall eu plant eu cyrchu. Gall rhieni nodi URLau penodol nad ydynt am i’w plant eu gweld.
Beth mae Hunan-waharddiad Gamblo yn BetBlocker yn ei wneud?
Pan fyddwch yn gosod Hunan-waharddiad Gamblo yn BetBlocker, bydd yr offeryn yn rhwystro’ch dyfais yn awtomatig rhag cyrchu unrhyw URL gamblo yn ein cronfa ddata. Diweddarwn y gronfa hon yn wythnosol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cynnig y lefel uchaf posibl o amddiffyniad.
Ydw i'n gallu dileu Hunan-waharddiad Gamblo ar ôl iddo ddechrau?
Mae dibyniaeth gamblo’n gyflwr sy'n aml yn gysylltiedig ag anallu i reoli’r ysfa i fetio. Felly ni fyddai’r offeryn hwn yn effeithiol wrth atal ailwaeledd pe gallech ei analluogi yn ystod Hunan-waharddiad Gamblo. Ar ôl actifadu’r cyfyngiad, ni ellir ei godi. Rydym yn sicrhau ei bod mor anodd â phosibl dileu BetBlocker yn ystod y cyfnod, ac ni fydd ein Tîm Cymorth Defnyddwyr yn eich helpu i ddileu'r offeryn tra bo’r cyfyngiad yn weithredol.
Sut mae Rheolaeth Rhieni'n gweithio?
Mae’r system Rheolaeth Rhieni’n hawdd ac yn gyflym i’w gosod. Gosodwch BetBlocker, dewiswch Rheolaethau Rhieni a dilynwch y camau i benderfynu pa URLau i’w cyfyngu. Pan fyddwch yn actifadu’r offeryn, bydd y cyfyngiadau’n cael eu rhoi ar waith.
Os yw BetBlocker am ddim, oes rhaid i mi weld llu o hysbysebion i'w ddefnyddio?
Na. Nid yw BetBlocker yn hysbysebu unrhyw gynhyrchion na gwasanaethau. Mae'n gwbl rydd rhag hysbysebion.
Rwyf eisiau cyfyngu fy nyfais rhag cyrchu gweithredwyr gamblo. Ydy'r Rheolaethau Rhieni yn gallu gwneud hynny?
Ydyn. Wrth sefydlu Rheolaeth Rhieni gallwch ddewis p'un a ydych am gynnwys ein rhestr o wefannau gweithredwyr gamblo ai peidio. Er na allwn warantu ei bod yn hollgynhwysfawr, mae’n cynnwys cyfran uchel iawn o’r gweithredwyr gamblo presennol ac fe’i diweddarir yn wythnosol.
Pwy sefydlodd BetBlocker a pham?
Yn anffodus, mae nifer o unigolion maleisus yn y sector gamblo wedi honni ar gam eu bod wedi sefydlu BetBlocker neu fod ganddynt ryw gysylltiad ag ef.
Sefydlwyd BetBlocker gan wasanaeth Alternative Dispute Resolution (ADR) The POGG yn 2017. Os welwch unrhyw un arall yn honni eu bod wedi sefydlu BetBlocker, nid yw'r honiadau hynny'n wir. Mae'r gwasanaeth hwn yn rheoli cwynion rhwng chwaraewyr a gweithredwyr gamblo ar-lein ar ran nifer o asiantaethau rheoleiddiol. Sefydlwyd BetBlocker fel ffordd o helpu’r chwaraewyr hynny a oedd yn cysylltu â’r gwasanaeth â chwyn yn ymwneud â gamblo cyfrifol, yn benodol am fod yr ADR yn teimlo’n anghyfforddus yn cyfeirio pobl â phroblemau dibyniaeth gamblo at wasanaethau blocio sy’n codi tâl.
Yn 2019, ar ôl gweld cynnydd cyflym yn y galw am offeryn BetBlocker, daethpwyd i’r casgliad nad oedd yn ariannol gynaliadwy i barhau i redeg BetBlocker fel ychwanegiad at y gwasanaeth ADR. Bryd hynny, gwahanwyd BetBlocker oddi wrth y busnes a’i sefydlu fel elusen annibynnol. Ers hynny, mae BetBlocker wedi cael ei ariannu drwy roddion gan amrywiaeth o fusnesau yn y diwydiant gamblo. Mae’r newid hwn wedi sicrhau bod llawer mwy o gyllid ar gael i’r prosiect, gan wella swyddogaethau’r ap ei hun a’r cymorth i ddefnyddwyr sydd ar gael i helpu’r rhai sydd ei angen.
Er bod BetBlocker bellach yn endid cyfreithiol annibynnol, yr un bobl a sefydlodd y gwasanaeth sy’n gwneud y penderfyniadau o hyd. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys aelodau amrywiol o dîm y gwasanaeth ADR. Bellach mae nifer o weithwyr yn gweithio i BetBlocker, ond nid yw unrhyw un a gyflogir gan y gwasanaeth ADR yn cael incwm gan BetBlocker. Mae Dogfennau Llywodraethu’r elusen yn gwahardd unrhyw un o’r Ymddiriedolwyr rhag gweithio fel gweithwyr i’r elusen. Felly, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r gwasanaeth yn cynnwys unigolion sy’n rhoi o’u hamser yn ddi-dâl i’r prosiect.
Os oes angen i chi gysylltu â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, gallwch gysylltu â Duncan Garvie drwy
[email protected]. Ni fydd ceisiadau am gymorth a anfonir i’r cyfeiriad e-bost hwn yn cael ymateb.
Ydw i'n gallu dileu Hunan-waharddiad Gamblo ar ôl i mi ei actifadu?
Na. Ar ôl actifadu Hunan-waharddiad Gamblo, yr unig ffordd i’w derfynu yw aros nes bod y cyfnod Hunan-wahardiad Gamblo a ddewiswyd wedi dod i ben. Am resymau moesegol ac i amddiffyn pobl sy’n profi problemau gamblo, ni fydd ein tîm cymorth o dan unrhyw amgylchiadau’n helpu defnyddiwr i analluogi Hunan-waharddiad Gamblo gweithredol.
Rwyf eisiau atal fy mhlentyn rhag cyrchu gwefannau sy'n hyrwyddo neu'n darparu gwybodaeth am gamblo. Ydy BetBlocker yn gallu gwneud hyn?
Ydy, i ryw raddau. Mae cannoedd ar filoedd o wefannau’n darparu gwybodaeth am gamblo ar-lein heddiw. Mae’n anymarferol llunio neu gynnal rhestr gyflawn o’r holl wefannau hyn.
Y dewis arall yn lle llunio rhestr o’r fath fyddai defnyddio rhwystrwr geiriau allweddol. Byddai hwn yn rhwystro unrhyw dudalen sy’n cynnwys geiriau allweddol penodol a ddefnyddir yn aml ar wefannau sy’n ymwneud â gamblo. Byddai’r dull hwn yn arwain at lawer o ganlyniadau “positif ffug”: gwefannau nad ydynt yn ymwneud â gamblo ond sy’n cael eu rhwystro am eu bod wedi defnyddio rhai geiriau sy’n camarwain y rhwystrwr geiriau allweddol ac yn peri iddo eu dosbarthu’n wefannau gamblo. Mae’r dull hwn yn ymwthiol iawn a gall olygu na fydd modd cael mynediad at lawer o adnoddau addysgol o ansawdd uchel.
Felly, rydym wedi ceisio dod o hyd i gyfaddawd. Nid ydym yn defnyddio rhwystrwr geiriau allweddol, ond rydym wedi llunio rhestr o gannoedd o’r gwefannau gwybodaeth a hyrwyddo gamblo sy’n ymddangos amlaf ar dudalen gyntaf Google (yn Saesneg) ar gyfer rhai o’r termau chwilio mwyaf poblogaidd.
Yn amlwg, nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ond credwn y bydd yn fan cychwyn da i rieni sy’n ceisio atal eu plant rhag cael mynediad at ddeunydd nad yw’n briodol i’w hoedran.
Faint o weithiau alla I osod BetBlocker?
Gallwch osod BetBlocker gymaint o weithiau ag y dymunwch, ar unrhyw nifer o ddyfeisiau ac ar gynifer o lwyfannau gwahanol ag y dymunwch. Nid oes unrhyw derfynau.
Am ba hyd alla i Hunan-wahardd?
Mae BetBlocker yn cynnig dau fath o gyfyngiad: cyfyngiad blocio neu gyfyngiad wedi’i amserlennu ar galendr.
Mae’r bloc yn syml: dewiswch y cyfnod yr hoffech ei rwystro ac actifadu’r cyfyngiad. Bydd y bloc yn parhau drwy’r cyfnod hwnnw. Gallwch ddewis:
- 1 diwrnod
- 2 ddiwrnod
- 3 diwrnod
- 5 diwrnod
- 1 wythnos
- 2 wythnos
- 1 mis
- 2 fis
- 3 mis
- 6 mis
- 1 flwyddyn
- 2 flynedd
- 3 blynedd
- 5 mlynedd
Mae ein bloc calendr yn eich galluogi i drefnu pryd y bydd y cyfyngiad yn troi ymlaen ac i ffwrdd. Mae hyn yn ddefnyddiol os yw gamblo’n broblem ar adegau penodol, megis ar benwythnosau, ar ôl cael eich talu neu yn ystod gwyliau. Mae’r amseroedd gorau’n amrywio o berson i berson. Gall BetBlocker eich helpu i gynllunio ymlaen llaw a gosod y bloc pan fydd ei angen fwyaf.
Bwriadwn ehangu’r nodwedd calendr i gyfyngu ar oriau chwarae penodol, ond rydym yn aros am ddigon o gyllid i wneud yr uwchraddiad hwn.
A yw'n werth defnyddio BetBlocker os ydw i eisoes wedi cofrestru gyda Gamstop?
Ydy.
Mae cynlluniau hunan-waharddiad cenedlaethol fel
Gamstop a
Spelpaus yn rhaglenni gwych y dylai unrhyw un sy’n poeni am eu gamblo eu defnyddio (os yw'r rhaglen hon neu ei thebyg ar gael yn eu gwlad.)
Fodd bynnag, dim ond gwefannau gamblo sydd â thrwydded yn y wlad honno y mae’r cynlluniau hyn yn eu cwmpasu. Nid oes llawer o weithredwyr anghyfreithlon heb drwydded wedi’u cynnwys. Yn ffodus, nid yw BetBlocker yn seilio’i gyfyngiadau ar drwyddedau gwledydd unigol. Yn wir, rydym yn ceisio cwmpasu holl wefannau gweithredwyr gamblo sydd â thrwydded neu ddim. Felly bydd hyd yn oed casinos nad ydynt ar Gamstop neu Spelpaus yn cael eu cyfyngu. Mae BetBlocker yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau hunan-waharddiad cenedlaethol i gynnig yr amddiffyniad gorau posibl i’ch atal rhag mynd yn ôl i’ch hen arferion pan fyddwch yn teimlo’n fregus.
Ydw i'n gallu ymestyn fy Hunan-waharddiad Gamblo?
Ydych. Tra bo Hunan-waharddiad Gamblo yn weithredol, gallwch fynd i BetBlocker ac ymestyn ei hyd unrhyw bryd. Bydd hyn yn dod i rym ar unwaith.
Rwyf eisiau atal fy mhlentyn rhag cyrchu gwefannau sydd â chynnwys rhywiol ynddynt. Ydy BetBlocker yn gallu gwneud hyn?
Ydy, i ryw raddau. Mae cannoedd ar filoedd o wefannau pornograffi ar-lein heddiw. Mae’n anymarferol llunio neu gynnal rhestr gyflawn o’r holl wefannau hyn.
Y dewis arall yn lle llunio rhestr o’r fath fyddai defnyddio rhwystrwr geiriau allweddol — byddai hwn yn rhwystro unrhyw dudalen sy’n cynnwys geiriau allweddol penodol a ddefnyddir yn aml ar wefannau pornograffig. Byddai’r dull hwn yn arwain at lawer o ganlyniadau ‘positif ffug’: gwefannau sy’n cael eu rhwystro er nad ydynt yn ymwneud â gamblo, ond sydd wedi defnyddio rhai geiriau sy’n camarwain y rhwystrwr geiriau allweddol ac yn peri iddo eu dosbarthu’n wefannau gamblo. Mae’r dull hwn yn ymwthiol iawn a gall olygu na fydd modd cael mynediad at lawer o adnoddau addysgol o ansawdd uchel.
Felly, rydym wedi ceisio dod o hyd i gyfaddawd. Nid ydym yn defnyddio rhwystrwr geiriau allweddol, ond rydym wedi llunio rhestr o rai cannoedd o’r gwefannau pornograffi sy’n ymddangos amlaf ar dudalen gyntaf Google (yn Saesneg) ar gyfer rhai o’r termau chwilio mwyaf poblogaidd. Yn y diwydiant penodol hwn, ychydig o wefannau sy’n dominyddu canlyniadau peiriannau chwilio ar gyfer nifer fawr o dermau chwilio. Mae hynny’n golygu y bydd y rhestr hon, er nad yw’n gwbl ddi-feth, yn cyfyngu mynediad at lawer o’r gwefannau a geir amlaf wrth chwilio ar-lein.
Yn amlwg, nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ond credwn y bydd yn fan cychwyn da i rieni sy’n ceisio atal eu plant rhag cael mynediad at ddeunydd nad yw’n briodol i’w hoedran.
Ydw i'n gallu gwahardd rhag gwefannau heblaw am weithredwyr gamblo?
Mae hyn yn dibynnu ar y platfform a ddefnyddiwch.
Rydym yn cynnwys rhestr ddewisol o wefannau gwybodaeth a hysbysebu gamblo y gellir eu cynnwys yn eich Hunan-waharddiad Gamblo. Mae hyn yn gweithio ar bob platfform.
Ar ein rhaglenni Windows/Apple/Linux, gallwch nodi cyfyngiadau gwefannau eich hun wrth ddefnyddio’r fersiwn leol yn unig. Nid yw cyfyngiadau wedi’u teilwra’n bosibl gyda’r fersiwn VPN.
Bydd unrhyw URL a gynhwyswch yn aros wedi’i rwystro am gyfnod cyfan y cyfyngiad. Ni allwch ddileu URLau ar ôl actifadu’r cyfyngiad.
Mae ein cyfrifiadur yn ddyfais gymunedol. Ydw i'n gallu gwahardd fy mhlant rhag cyrchu gwahanol URLau ond dal i allu eu cyrchu fy hun?
Ydych. Wrth sefydlu Rheolaeth Rhieni, gofynnir i chi greu cyfrinair. Ar ôl actifadu’r cyfyngiad, agorwch yr offeryn a nodi'r cyfrinair i ddiffodd y cyfyngiad. Gallwch felly gadw’r cyfyngiad ymlaen tra bo’ch plant ar-lein a’i ddiffodd pan fyddwch am bori eich hun.
Pa wybodaeth ydych chi'n ei chasglu am ddefnyddwyr?
Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol am ein defnyddwyr. Defnyddir y gwasanaeth yn gwbl ddienw. Nid ydym yn casglu cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, enwau nac unrhyw wybodaeth arall y gellid ei defnyddio i adnabod ein defnyddwyr.
Rydym yn deall y gall wynebu’r broblem o ddibyniaeth gamblo beri embaras. Rydym yn hapus i’ch helpu, ond nid oes angen i ni wybod pwy ydych chi.
Rydym yn casglu data dienw ; faint o ddefnyddwyr sy’n defnyddio’r offeryn ar unrhyw adeg benodol, a gwneuthuriad a model y ffôn (pan fyddwch yn cysylltu drwy’r nodwedd cymorth yn yr ap). Defnyddiwn y wybodaeth hon i’n helpu i sicrhau cyllid (mae darpar roddwyr yn aml am wybod faint o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth) ac i ymateb i geisiadau cymorth gan ddefnyddwyr mor effeithlon â phosibl.
Sut ydw i'n ailosod fy nghyfrinair os ydw i'n ei anghofio?
Yn anffodus, nid oes modd ailosod eich cyfrinair. Rydym wedi cynllunio’r gwasanaeth i gasglu cyn lleied o wybodaeth â phosibl am ddefnyddwyr, gan gynnwys peidio â chasglu cyfeiriadau e-bost. Gan nad ydym yn casglu cyfeiriad e-bost, ni allwn anfon e-byst i ailosod cyfrineiriau.
Felly, nid oes modd ailosod eich cyfrinair. Mae’n hanfodol eich bod yn ei gadw’n ddiogel os oes unrhyw siawns y bydd ei angen arnoch.
Cofiwch mai’r unig ddefnyddiwr fyddai angen cyfrinair yw’r defnyddiwr sy’n dewis Hunan-wahardd am Byth ac sydd wedyn am godi’r hunan-waharddiad ar ôl 5 mlynedd neu ddefnyddwyr Rheolaeth Rhieni, a byddai’r cyfyngiadau hynny’n cael eu codi’n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod gwahardd a ddewiswyd.
Pam mae'n rhaid i mi ddewis cyfnod amser ar gyfer Rheolaeth Rhieni?
Bwriad BetBlocker yn bennaf yw helpu pobl â phroblemau gamblo i reoli eu dibyniaeth ar gamblo. Yn anffodus, mae marchnatwyr diegwyddor yn y diwydiant gamblo wedi targedu’r bobl fregus hyn dro ar ôl tro, gan eu hystyried yn ‘werth uchel’. Am y rheswm hwn, nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol na manylion cyswllt gan ddefnyddwyr. Felly ni ellir ein cyhuddo o gasglu rhestrau marchnata, ac ni fyddai ymosodwyr yn gallu cael manylion cyswllt defnyddwyr pe bai ein systemau’n cael eu hacio.
Canlyniad hyn yw na allwn ailosod eich cyfrinair. Heb gyfeiriad e-bost i gadarnhau pwy sy’n gofyn am ailosod, ni allwn wirio mai’r person a sefydlodd yr offeryn sy’n ceisio dileu’r cyfyngiad.
Am y rheswm hwn, rhaid i Reolaethau Rhieni gynnwys hyd cyfyngiad. Ar ddiwedd y cyfnod a ddewiswyd, caiff y cyfyngiadau eu codi’n awtomatig, felly hyd yn oed os anghofiwch eich cyfrinair, gallwch aros nes bod y cyfnod wedi dod i ben.
A fydd fy Hunan-waharddiad Gamblo yn cael ei godi'n awtomatig ar ddiwedd fy nghyfnod gwahardd dewisol?
Mae hyn yn dibynnu ar hyd y gwaharddiad a ddewiswch:
- Os dewiswch 24 awr, 2, 3 neu 5 diwrnod, 1 neu 2 wythnos, neu 1 mis, caiff y gwaharddiad ei godi’n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod.
- Os dewiswch 2, 3 neu 6 mis, neu 1, 2, 3 neu 5 mlynedd, bydd y gwaharddiad yn parhau am gyfnod amhenodol oni bai eich bod yn gofyn yn benodol am ei ddadactifadu.
Ar ôl diwedd y cyfnod, os dewiswch ei ddadactifadu, bydd y cyfyngiad yn parhau am wythnos arall. Gelwir hyn yn ‘Gyfnod Oeri’ ac mae’n helpu i sicrhau nad ydych yn gweithredu ar fyrbwylltra a allai fod yn niweidiol. Gallwch ymestyn y cyfyngiad yn ystod y cyfnod hwn ac ni fydd y gwaharddiad yn dod i ben. Os na wnewch hynny, caiff ei godi’n awtomatig ar ôl yr wythnos.
Ydw i'n gallu ymestyn hyd y cyfyngiad?
Ydych. Tra bo cyfyngiad Rheolaeth Rhieni’n weithredol, gallwch fynd i BetBlocker ac ymestyn hyd y cyfyngiad unrhyw bryd. Bydd hyn yn dod i rym ar unwaith.
Sut fydd BetBlocker yn effeithio ar ddefnydd fy matri?
Rydym wedi cynnal profion i weld sut mae BetBlocker yn effeithio ar oes batri tra bo’r ap yn weithredol. Profion cyffredinol yn unig yw'r canlyniadau isod; gall eich profiad amrywio yn ôl apiau eraill, model eich ffôn a maint y batri.
Android (batri 3000 mAh):
1. Modd gweithredol – wrth ddefnyddio’r ffôn yn barhaus i bori’r rhyngrwyd a chwarae gemau, parhaodd y batri 14 awr gyda BetBlocker, o’i gymharu â 15 awr a 30 munud hebddo, gostyngiad o tua 10%.
2. Modd cysgu – pan oedd y ffôn ymlaen ond heb ei ddefnyddio, draeniwyd y batri mewn 96 awr gyda BetBlocker, o’i gymharu â 97 awr hebddo, gostyngiad o tua 1%.
Sut mae'r cyfyngiadau a gynigir gan BetBlocker yn cymharu â'r rhai sy'n ofynnol gan y gwahanol gyrff rheoleiddio gamblo ar-lein?
Mae cyfyngiadau BetBlocker yn cynrychioli’r gofynion llymaf a osodir gan y UK Gambling Commission a’r Malta Gambling Authority:
- Yn ôl gofynion yr UKGC, bydd Hunan-waharddiad Gamblo yn eich gwahardd yn awtomatig o bob safle o dan drwydded (a miloedd o weithredwyr eraill).
- Yn ôl gofynion yr UKGC, ni ellir codi’r cyfyngiad nes bod y cyfnod llawn wedi dod i ben.
- Yn ôl gofynion yr UKGC, mae cyfyngiadau dros 6 mis (rydym yn cymhwyso hyn o 2 fis ymlaen) yn parhau yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod cyfyngu ac ni ellir eu codi heb eich cais penodol chi; a bydd angen Cyfnod Oeri lle gwneir cais i godi Hunan-waharddiad Gamblo
- Yn ôl gofynion y MGA, bydd y Cyfnod Oeri a orfodir ar ôl unrhyw gais i ddileu Hunan-waharddiad Gamblo yn saith diwrnod llawn cyn i'r cyfyngiadau gael eu codi.
Gallwch anfon e-bost atom yn
[email protected], defnyddio’r ffurflen ar y dudalen hon neu ddefnyddio’r nodwedd “Cysylltu â Ni” yn yr ap.
- Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i gael ateb?
Mae hynny’n dibynnu ar nifer o ffactorau.
Elusen yw BetBlocker, ac rydym yn sianelu cymaint o’n cyllid ag y gallwn tuag at gynnal a gwella’r gwasanaeth er mwyn diogelu ein defnyddwyr. Costau staffio yw’r gost fwyaf o bell ffordd i elusen fach fel ein un ni, ac rydym yn ceisio cadw nifer y bobl a gyflogir yn isel er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael o hyd i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
Mae ein tîm cymorth defnyddwyr yn fach. Byddwn yn ymdrechu i ymateb i’ch cais o fewn 24 awr, ond gall amseroedd ymateb amrywio gan ddibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys nifer y ceisiadau cymorth rydym yn eu cael a pha mor hawdd yw hi i aelod o’r tîm ymateb.
- Rwyf wedi cysylltu â’r tîm cymorth. Pam nad wyf wedi cael ateb?
Os na chewch unrhyw ymateb o gwbl, mae’n debygol eich bod wedi defnyddio ein ffurflen we neu’r nodwedd “Cysylltu â Ni” ac wedi anghofio cynnwys cyfeiriad e-bost y gallwn gysylltu â chi drwyddo. Anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol yn
[email protected].
Os na fyddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, byddwn yn cael eich neges ond ni fyddwn yn gallu ymateb.
Gan ein bod yn cael negeseuon yn rheolaidd gan ddefnyddwyr sydd eisiau gofyn i ni ychwanegu URL at y rhestr gyfyngu neu ddiolch i ni am yr ap yn unig, rydym yn gwneud ein gorau i beidio â chasglu unrhyw wybodaeth am y defnyddwyr hynny. Ond mae hynny’n golygu, os oes angen ateb arnoch, fod angen i chi ddweud wrthym ble i’w anfon
Mae rhywun arall wedi actifadu BetBlocker ar fy nyfais. Ydych chi'n gallu ei ddileu i mi?
Yn anffodus, na. Ni fyddwn yn dileu BetBlocker nes fod y cyfyngiad a ddewiswyd wedi dod i ben. Deallwn y gall fod yn rhwystredig os yw rhywun arall wedi gosod gwaharddiad ar eich rhan, ond ni allwn brofi pwy a gytunodd i’r telerau. Rhaid i ni dybio mai perchennog y ddyfais neu rywun sydd wedi’i awdurdodi a sefydlodd y cyfyngiad.
Rwy'n gwerthu fy nyfais i rywun arall. Ydych chi'n gallu dileu BetBlocker i mi?
Yn anffodus, na. Ni fyddwn yn dileu BetBlocker nes fod y cyfyngiad a ddewiswyd wedi dod i ben. Wrth actifadu BetBlocker, rydych yn cytuno i delerau defnydd sy’n nodi’n glir na ellir dileu’r bloc hwn nes fod y cyfnod wedi dod i ben. Esbonnir hyn hefyd yn ystod yr actifadu. Gallwn helpu i ddatrys problemau technegol, ond ni fyddwn yn diffodd yr offeryn nes fod y cyfnod gwahardd wedi dod i ben.
- Mae gen i broblem dechnegol. A fydd eich tîm yn tynnu’r ap i mi?
O ystyried y miliynau o gyfuniadau posibl o feddalwedd, caledwedd a rhwydweithiau sy’n cael eu defnyddio heddiw, bydd rhai defnyddwyr yn cael problemau technegol gyda BetBlocker o bryd i’w gilydd. Bydd ein Tîm Datblygu’n fwy na pharod i ymchwilio i’ch problem a darparu ateb cyn gynted â phosibl, ond gall hynny gymryd peth amser. Ni fyddwn yn tynnu’r ap oni bai nad oes unrhyw ffordd arall o ddatrys eich problem.
- Dydw i ddim eisiau aros i chi ddatrys problem dechnegol. Pam na wnewch chi dynnu’r ap ar unwaith?
Offeryn yw BetBlocker sydd wedi’i fwriadu’n benodol i atal pobl sy’n teimlo bod mynediad at wasanaethau gamblo’n niweidio’u bywydau rhag gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny. I bobl sydd â thueddiadau cymhellol sy’n ymwneud â gamblo, gall y gallu i gael mynediad at wasanaethau gamblo ar-lein achosi niwed sylweddol i’w bywydau mewn cyfnod byr.
Yn y pen draw, oherwydd prif swyddogaeth ein hofferyn, ein blaenoriaeth yw cyfyngu mynediad at wasanaethau gamblo yn gyntaf oll. A yw hynny’n golygu y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig o bryd i’w gilydd pan fydd nam yn effeithio arnynt ac yn cymryd amser i’w ddatrys? Ydy. Ond mae’n rhaid i ni benderfynu pa un sy'n peri'r lleiaf o ddrwg: gadael i’r defnyddwyr hyn deimlo’n rhwystredig wrth i ni ddatrys y broblem, neu roi mynediad i’n holl ddefnyddwyr at wasanaethau gamblo a allai achosi niwed mawr i’w bywydau, dim ond drwy honni bod problem dechnegol. Does dim dewis da yn yr amgylchiadau hyn – beth bynnag a wnawn, bydd rhai pobl yn anfodlon – ond mae’n well achosi rhywfaint o rwystredigaeth na chymryd camau a allai arwain at rywun yn achosi niwed sylweddol i fywydau ein defnyddwyr.
Nid oes gennym unrhyw ffordd o asesu pa mor ddifrifol yw problem y defnyddiwr. Rhaid i ni drin problemau pob defnyddiwr fel rhai difrifol, beth bynnag maen nhw’n ei ddweud wrth geisio cael gwared ar y gwasanaeth.
Nid ydym am achosi rhwystredigaeth i unrhyw ddefnyddiwr, ond gofynnwn i chi ddeall mai achosi rhwystredigaeth yw’r opsiwn â’r risg isaf, ac mae’n llawer gwell na’r posibilrwydd y bydd rhywun yn colli arian na all fforddio’i golli am ein bod wedi ceisio’u cadw’n hapus yn y tymor byr yn hytrach na gwneud y dewis anodd.
Mae rhai fersiynau o BetBlocker yn defnyddio VPN i orfodi’r cyfyngiad gamblo. O safbwynt ‘rhwydweithiau lleol’, bydd eich dyfais yn ymddangos fel pe bai’n cysylltu drwy ein gweinydd VPN yn hytrach na chysylltiad lleol. Felly ni fydd yn cael ei hadnabod fel rhan o’r rhwydwaith lleol ac efallai na fyddwch yn gallu cyrchu dyfeisiau eraill arno, megis argraffwyr. Ni allwn ddatrys hyn. Ar rai platfformau, VPN yw’r unig ffordd o orfodi’r cyfyngiad.
Gweld yr Holl Gwestiynau Cyffredin